P-05-869 Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Matthew Misiak, ar ôl casglu 4,958 o lofnodion ar-lein a 1,190 ar bapur – cyfanswm o 6,148 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym
yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru
i:
1. Ddatgan Argyfwng Hinsawdd.
2. Sicrhau bod yr holl bolisïau presennol ac yn y
dyfodol yn gyson â'r ymgyrch i osgoi newid pellach yn yr
hinsawdd a chwymp ecolegol.
3. Deddfu mesurau polisi cyfreithiol i leihau allyriadau carbon i
net sero erbyn 2025 a lleihau lefelau defnydd.
4. Gweithredu Cynulliad Dinasyddion Cymru i oruchwylio'r
newidiadau.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan Argyfwng Hinsawdd ar
unwaith, ac ymrwymo i weithredu'r camau sy'n weddill erbyn mis
Mehefin 2019.
Rhaid i dargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer sector cyhoeddus
di-garbon gael eu defnyddio fel catalydd i sbarduno datgarboneiddio
cyflym yn y sector preifat drwy gaffael, trethi a chymhorthdal.
Ledled y DU, mae ugain cyngor dinas, tref a sir eisoes wedi datgan
Argyfwng Hinsawdd, gan gynnwys Powys a Machynlleth. Rhaid i
ddinasyddion fod yn rhan er mwyn sicrhau bod y newid angenrheidiol
yn cael ei wneud ar draws gymdeithas, fel y dangoswyd ym model
Sortition o ddemocratiaeth gyfranogol. Ymhlith y mentrau y gellir
creu partneriaeth â nhw mae: The Climate Mobilization; Beyond
Zero Emissions; Rapid Transition Alliance; Green New Deal Group;
One Million Climate Jobs; The Breakthrough Institute; a Zero Carbon
Britain.
Gwybodaeth ychwanegol:
Mae
Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd wedi
rhybuddio bod gennym 12 mlynedd i wneud y newidiadau angenrheidiol
i gyfyngu ar gynnydd mewn tymheredd byd-eang o 1.5ºC. Bydd
methiant i weithredu yn golygu cynnydd sylweddol a chyflymach yn
lefelau'r môr a llifogydd, newidiadau eithafol a sydyn i
batrymau tywydd, methiant cnwd, a rhywogaethau o blanhigion, pryfed
ac anifeiliaid yn darfod. Yn anochel, bydd hyn yn arwain at amharu
economaidd byd-eang ac argyfwng dyngarol. Bydd hefyd yn effeithio'n
andwyol ar les pobl Cymru a biliynau o bobl eraill. Y llynedd,
dywedodd Syr David Attenborough:
"Ar hyn o bryd, rydym yn wynebu argyfwng a wnaed gan ddyn ar raddfa
fyd-eang. Ein bygythiad mwyaf mewn miloedd o flynyddoedd. Newid
hinsawdd. Os na fyddwn ni'n gweithredu, mae cwymp gwareiddiad a
thranc llawer o'n byd naturiol ar y gorwel. Mae pobl y byd wedi
siarad. Mae'r neges yn glir. Mae amser yn rhedeg allan."
Mae polisi Datblygu Un Blaned a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r
Dyfodol yn dangos y gall Cymru arwain y ffordd mewn polisi
blaengar. Ond nid ydynt yn ysgogi'r llywodraeth i weithredu yn unol
â difrifoldeb y sefyllfa. Mae'r consensws gwyddonol yn dangos
y raddfa heb ei debyg o weithredu ar y cyd sydd ei angen er mwyn
osgoi'r canlyniadau gwaethaf yn y dyfodol agos. Ni allwn ofyn am
ddim llai.
Mae pobl ledled y byd yn cael eu hysbrydoli gan fudiad Extinction
Rebellion i annog llywodraethau ar bob lefel i wynebu'r her yn sgil
newid hinsawdd a chwymp ecolegol. Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn
ein barnu ar ein dewrder i wneud y newid yr ydym yn gwybod sydd ei
angen ar frys. Gweithredwch nawr.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Aberconwy
· Gogledd Cymru